Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), ar gyfer eu cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

2014 Rhif (Cy. )

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

NODYN ESBONIADOL

(Nid yw’r nodyn hwn yn rhan o’r Rheoliadau)

Mae’r Rheoliadau hyn yn darparu ar gyfer trwyddedu personau sy’n ymwneud â bridio cŵn. Mae Rhan 2 o’r Rheoliadau yn diffinio bridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (p.45) (“y Ddeddf”). Canlyniad y dynodiad hwnnw, yn ddarostyngedig i feini prawf cymhwyso, yw bod rhaid i unrhyw berson sy’n dymuno bridio cŵn yng Nghymru gael trwydded gan ei awdurdod lleol o dan y Rheoliadau hyn. Mae’r gofyniad hwn yn disodli’r gofyniad i gael trwydded o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yng Nghymru.

Mae person sy’n bridio cŵn yng Nghymru heb drwydded o dan y Rheoliadau hyn yn cyflawni trosedd o dan adran 13(6) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac yn agored i gael ei garcharu am gyfnod hyd at 6 mis neu gael dirwy heb fod yn fwy na lefel 5 ar y raddfa safonol neu’r ddau. O dan adran 30 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 caiff awdurdodau lleol erlyn am unrhyw drosedd o dan y Ddeddf.

Mae Rhan 3 o’r Rheoliadau yn pennu sut y gall person wneud cais i’r awdurdod lleol am drwydded ac mae’n pennu materion y mae’n rhaid i awdurdod lleol fodloni ei hunan ynglŷn â hwy wrth ystyried rhoi ac adnewyddu trwydded. Mae’n darparu y caiff awdurdod lleol godi ffioedd i ddiwallu unrhyw dreuliau rhesymol a dynnir wrth gyflawni’r swyddogaeth hon, ac wrth fonitro cydymffurfiaeth â’r Rheoliadau hyn. Mae’n ei gwneud yn ofynnol i awdurdod lleol roi sylw i ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru wrth gyflawni eu swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Rhan 4 yn pennu o dan ba amgylchiadau y ceir atal dros dro, amrywio neu ddirymu trwydded. Mae Rhan 5 yn darparu ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau trwyddedu gan awdurdodau lleol.

Mae Rhan 6 yn darparu bod torri amod trwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn yn drosedd. Mae’n darparu pwerau i arolygwyr gymryd samplau a mynd i mewn i fangreoedd ac yn cymhwyso pwerau perthnasol, yn dilyn collfarn, sydd wedi eu cynnwys yn y Ddeddf. Mae’n darparu ar gyfer gorfodi’r Rheoliadau hyn gan yr awdurdodau lleol. Mae’n darparu bod trwyddedau a roddir o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn parhau i gael effaith fel pe baent yn cael eu rhoi o dan y Rheoliadau hyn.

Mae Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn yn pennu’r amodau trwydded gorfodol y mae’n rhaid eu gosod ar bob trwydded a roddir gan awdurdod lleol.

Mae Atodlen 2 i’r Rheoliadau hyn yn diwygio Deddf Bridio Cŵn 1973 ac yn diwygio cyfeiriadau ati mewn pedair Deddf o ganlyniad i ddiddymu adran 1(1) o’r Ddeddf honno mewn perthynas â Chymru.

Ystyriwyd Cod Ymarfer Gweinidogion Cymru ar wneud Asesiadau Effaith Rheoleiddiol mewn perthynas â'r Rheoliadau hyn. O ganlyniad, paratowyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol o'r costau a'r buddiannau sy'n debygol o ddeillio o gydymffurfio â'r Rheoliadau hyn. Gellir cael copi ohono gan Lywodraeth Cymru, Parc Cathays, Caerdydd, CF10 3NQ.

 

 


Rheoliadau drafft a osodwyd gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru o dan adran 61(2) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 (a pharagraff 34 o Atodlen 11 i Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006), ar gyfer eu cymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

2014 Rhif (Cy. )

ANIFEILIAID, CYMRU

LLES ANIFEILIAID

Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014

Gwnaed                                                     

Yn dod i rym                            31 Rhagfyr 2014           

Mae Gweinidogion Cymru, sef yr awdurdod cenedlaethol priodol mewn perthynas â Chymru([1]), yn gwneud y Rheoliadau canlynol drwy arfer y pwerau a roddir gan adrannau 13(2), (7), (8)(e) a (10) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006([2]) a Rhannau 1 a 3 o Atodlen 1 i’r Ddeddf honno.

Yn unol ag adran 13(9) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru, fel yr ystyrient yn briodol, wedi ymgynghori â’r personau hynny yr oedd yn ymddangos iddynt eu bod yn cynrychioli’r buddiannau y mae’r Rheoliadau hyn yn ymwneud â hwy.

Yn unol ag adran 61(2) o’r Ddeddf honno([3]), mae drafft o’r offeryn hwn wedi ei osod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac wedi ei gymeradwyo drwy benderfyniad y Cynulliad.

RHAN 1

Cyflwyniad

Enwi, cymhwyso a chychwyn

1.(1)(1) Enw’r Rheoliadau hyn yw Rheoliadau Lles Anifeiliaid (Bridio Cŵn) (Cymru) 2014.

(2) Maent yn gymwys o ran Cymru ac yn dod i rym ar 31 Rhagfyr 2014.

Diddymu adran 1(1) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973

2. Yn adran 1 o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 (trwyddedu sefydliadau bridio ar gyfer cŵn) ar ôl is-adran (1) mewnosoder—

 “(1A) Subsection (1) does not apply in relation to Wales.”

Dehongli

3. Yn y Rheoliadau hyn—

ystyr “amodau trwydded” (“licence conditions”) yw’r amodau a bennir yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn ac unrhyw amodau ychwanegol a osodir ynghlwm wrth drwydded gan yr awdurdod lleol;

ystyr “arolygydd” (“inspector”) yw unrhyw berson sydd ag awdurdodiad ysgrifenedig gan awdurdod lleol i weithredu mewn materion sy’n codi o dan, neu mewn cysylltiad â’r Ddeddf neu’r Rheoliadau hyn;

ystyr “awdurdod lleol” (“local authority”) yw’r cyngor sir neu’r cyngor bwrdeistref sirol lle y mae’r ceisydd am y drwydded o dan reoliad 7 yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn yn ei ardal;

ystyr “ci bach” (“puppy”) yw ci sy’n llai na 6 mis oed;

ystyr “ci gre” (“stud dog”) yw ci gwryw heb ei ysbaddu, nad yw’n llai na 6 mis oed;

ystyr “ci llawndwf” (“adult dog”) yw ci nad yw’n llai na 6 mis oed;

ystyr “y Ddeddf” (“the Act”) yw Deddf Lles Anifeiliaid 2006;

ystyr “gast fridio” (“breeding bitch”) yw gast heb ei hysbaddu, nad yw’n llai na 6 mis oed;

ystyr “gweinydd llawn-amser” (“full-time attendant”) yw person sy’n gweithio, naill ai am dâl neu’n ddi-dâl, am o leiaf 37 awr yr wythnos ym mangre’r deiliad trwydded;

ystyr “gweinydd rhan-amser” (“part-time attendant”) yw person sy’n gweithio rhwng 18.5 a 37 awr bob wythnos, naill ai am dâl neu’n ddi-dâl ym mangre’r deiliad trwydded;

ystyr “microsglodyn” (“microchip”) yw dyfais adnabod amledd radio oddefol darllen yn unig wedi ei rhaglennu â rhif unigryw y gellir ei ddarllen â sganiwr;

ystyr “microsglodynnu” (“microchipped”) yw rhoi microsglodyn o dan y croen;

ystyr “rhaglen gymdeithasoli” (“socialisation programme”) yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy’n manylu ar sut y gwneir i gŵn bach i ymgynefino â chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig,  chwarae, a sut y byddant yn cael eu paratoi ar gyfer eu gwahanu oddi wrth y fam;

ystyr “rhaglen gymdeithasoli ddrafft” (“draft socialisation programme”) yw dogfen sy’n manylu ar sut y gwneir i gŵn bach ymgynefino â chael eu trin gan bobl, amgylcheddau domestig,  chwarae, a sut y byddant yn cael eu paratoi ar gyfer gwahanu oddi wrth y fam, a gyflwynir gan y ceisydd i’r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr “rhaglen wella a chyfoethogi” (“enhancement and enrichment programme”) yw dogfen a gymeradwywyd mewn ysgrifen gan yr awdurdod lleol, sy’n manylu ar y modd y rhoddir cyfleoedd i gŵn fynegi eu patrymau ymddygiad normal;

ystyr “rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft” (“draft enhancement and enrichment programme”) yw dogfen sy’n manylu ar sut y bydd cŵn yn cael cyfleoedd i fynegi patrymau ymddygiad normal a gyflwynwyd gan y ceisydd i’r awdurdod lleol o dan reoliad 7;

ystyr “trwydded” (“licence”) yw trwydded a roddir o dan reoliad 8.

RHAN 2

Gofyniad i ddal trwydded

Trwyddedu bridwyr cŵn

4. Mae bridio cŵn yn weithgaredd penodedig, at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf.

Bridio cŵn: dehongli

5.(1)(1) Mae person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’n cadw 3 neu ragor o eist bridio mewn mangre, ac—

(a)     yn bridio, yn y fangre honno, 3 neu ragor o dorllwythi gwahanol o gŵn bach mewn unrhyw gyfnod o 12 mis;

(b)     yn hysbysebu ar werth o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach a roddwyd ar werth yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis;

(c)     yn cyflenwi o’r fangre honno gi neu gŵn bach, a anwyd o 3 neu ragor o dorllwythi o gŵn bach yn ystod unrhyw gyfnod o 12 mis; neu

(d)     yn hysbysebu busnes o fridio neu o werthu cŵn bach o’r fangre honno.

(2) At ddibenion paragraff (1) rhagdybir bod unrhyw gi a ganfyddir mewn mangre yn cael ei gadw gan feddiannydd y fangre honno nes profir i’r gwrthwyneb.

(3) At ddibenion paragraff (1)(a) i (c) nid yw’n berthnasol a yw’r torllwythi o gŵn bach wedi eu bridio o’r geist bridio y cyfeirir atynt ym mharagraff (1), ai peidio.

(4) Mae’r rheoliad hwn yn ddarostyngedig i reoliad 6.

Bridio cŵn: eithrio

6.(1)(1) Nid yw person yn cynnal y gweithgaredd o fridio cŵn at ddibenion adran 13(1) o’r Ddeddf os yw’r cŵn a grybwyllwyd yn rheoliad 5 yn cael eu bridio—

(a)     i’w defnyddio mewn gweithdrefnau a reoleiddir, a

(b)     mewn lle a bennir yn nhrwydded adran 2C yn rhinwedd adran 2B(2)(b) o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

(2) Ym mharagraff (1) mae i “gweithdrefn a reoleiddir” a “trwydded adran 2C” yr ystyr a roddir i “regulated procedure” a “section 2C licence” gan adran 30 o Ddeddf Anifeiliaid (Gweithdrefnau Gwyddonol) 1986.

RHAN 3

Trwyddedau

Cais am drwydded

7.(1)(1) Er mwyn gwneud cais am drwydded o dan y Rheoliadau hyn, rhaid i geisydd gyflwyno—

(a)     cais ar ffurf ac mewn modd a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol;

(b)     rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;

(c)     rhaglen gymdeithasoli ddrafft;

(d)     manylion nifer disgwyliedig y cŵn llawndwf a’r cŵn bach i fod yn bresennol yn y fangre ar unrhyw adeg; ac

(e)     y dogfennau ategol hynny sy’n rhesymol ofynnol gan yr awdurdod.

(2) Rhaid i’r ceisydd dalu ffi briodol yn unol â rheoliad 12. 

Rhoi neu adnewyddu trwyddedau

8.(1)(1) Wrth gael cais sy’n cydymffurfio â rheoliad 7, rhaid i awdurdod lleol arolygu mangre’r ceisydd, ac os bydd wedi ei fodloni—

(a)     bod amodau’r drwydded naill ai wedi eu bodloni neu y byddant yn cael eu bodloni;

(b)     gyda’r rhaglen wella a chyfoethogi ddrafft;

(c)     gyda’r rhaglen gymdeithasoli ddrafft; a

(d)     gydag unrhyw faterion eraill y mae’r awdurdod lleol yn eu hystyried yn berthnasol;

caiff roi trwydded i’r ceisydd.

(2) Ynghlwm wrth bob trwydded a roddir, rhaid i’r awdurdod lleol roi—

(a)     yr amodau a gaiff eu cynnwys yn Atodlen 1 i’r Rheoliadau hyn;

(b)     amod sy’n pennu’r nifer uchaf o gŵn sydd i’w cadw o dan delerau’r drwydded; ac

(c)     amod sy’n pennu cymhareb nifer y staff i nifer y cŵn llawndwf a fydd yn sicrhau, fel isafswm staffio—

                      (i)    1 gweinydd llawn-amser am bob 20 ci llawndwf a gedwir; neu

                    (ii)    1 gweinydd rhan-amser am bob 10 ci llawndwf a gedwir.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraff (2) caiff yr awdurdod lleol hefyd roi amodau pellach ar drwydded fel yr ystyria’n angenrheidiol.

(4) Caiff yr awdurdod lleol roi neu adnewyddu trwydded am unrhyw gyfnod i fyny hyd at 1 flwyddyn.

Ystyried ceisiadau am drwyddedau

9.(1)(1) Wrth ystyried a ddylid rhoi neu adnewyddu trwydded, rhaid i’r awdurdod lleol fod wedi ei fodloni—

(a)     bod y cŵn yn cael eu cadw bob amser mewn llety o wneuthuriad a maint priodol, gyda chyfleusterau ymarfer, tymheredd, goleuo, awyru a glanweithdra priodol;

(b)     bod cyfleusterau esgor priodol ar gael;

(c)     bod y cŵn yn cael cyflenwad addas o fwyd, diod a gwasarn; a

(d)     bod y cŵn yn cael cyfleusterau digonol i’w galluogi i arddangos patrymau ymddygiad normal.

(2) Cyn rhoi neu adnewyddu trwydded, bydd hawl gan awdurdod lleol, wrth ystyried a yw amodau’r drwydded wedi eu bodloni, i roi sylw i ymddygiad y ceisydd, neu i unrhyw amgylchiadau eraill a ystyrir yn berthnasol gan yr awdurdod lleol.

Pobl na chaniateir iddynt wneud cais am drwydded

10. Ni chaiff neb wneud cais am drwydded os yw wedi ei anghymhwyso o dan—

(a)     adran 33 o Ddeddf Lles Anifeiliaid (Gogledd Iwerddon) 2011([4]);

(b)     adran 34 o’r Ddeddf;

(c)     adran 40(1) a (2) o Ddeddf Iechyd a Lles Anifeiliaid (Yr Alban) 2006([5]);

(d)     adran 33A o Orchymyn Cŵn (Gogledd Iwerddon) 1983([6]);

(e)     adran 3(3) o Ddeddf Bridio Cŵn 1973([7]) rhag cadw sefydliad bridio;

(f)      adran 4(3) o Ddeddf Sefydliadau Marchogaeth 1964 rhag cadw sefydliad marchogaeth([8]);

(g)     adran 3(3) o Ddeddf Sefydliadau Lletya Anifeiliaid 1963 rhag cadw sefydliad lletya([9]);

(h)     adran 1(1) o Ddeddf Diogelu Anifeiliaid (Diwygio) 1954 rhag gwarchod anifail([10]);

(i)       adran 5(3) o Ddeddf Anifeiliaid Anwes 1951 rhag cadw siop anifeiliaid anwes([11]); neu

(j)       adran 6(2) o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 rhag bod yn berchen anifail([12]),

ac y mae unrhyw drwydded a ddyroddir i berson sydd wedi ei anghymhwyso felly yn annilys.

Marwolaeth deiliad trwydded              

11.

(1) Os bydd y deiliad trwydded yn marw, rhagdybir bod y drwydded honno wedi ei rhoi i gynrychiolwyr personol y deiliad trwydded, ar yr amod nad oes yr un o’r cynrychiolwyr personol yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan unrhyw un o’r darpariaethau a bennir yn rheoliad 10, a bydd y drwydded yn parhau mewn grym am gyfnod o 3 mis, sy’n cychwyn gyda dyddiad y farwolaeth, ond yn parhau’n ddarostyngedig i’r darpariaethau yn Rhan 3.

(2) Rhaid i’r cynrychiolwyr personol hysbysu’r awdurdod lleol a roddodd y drwydded, fod y drwydded wedi ei breinio ynddynt hwy, o fewn 4 wythnos ar ôl marwolaeth y deiliad trwydded.

(3) Yn ddarostyngedig i baragraffau (4) a (5), caiff awdurdod lleol, ar gais y cynrychiolwyr personol hynny, estyn y cyfnod o 3 mis y cyfeirir ato ym mharagraff (1) os bodlonir yr awdurdod lleol fod yr estyniad yn angenrheidiol at y diben o ddirwyn i ben ystad yr ymadawedig, ac nad oes amgylchiad arall sy’n peri y byddai’n annymunol caniatáu estyniad.

(4) Cyn estyn trwydded y tu hwnt i 1 flwyddyn o’r dyddiad pan gafodd ei dyroddi, rhaid i awdurdod lleol arolygu mangre’r deiliad trwydded, ac o leiaf unwaith y flwyddyn wedi hynny yn ystod cyfnod yr estyniad.

(5) Ni chaniateir i unrhyw drwydded gael ei hestyn o dan baragraff (3) y tu hwnt i 3 blynedd o’r dyddiad pan gafodd y drwydded ei dyroddi.

Ffioedd

12.—(1) Caiff awdurdod lleol godi’r cyfryw ffioedd a ystyria’n angenrheidiol—

(a)     am ystyried cais am drwydded; a

(b)     am roi neu adnewyddu trwydded.

(2) Ni chaiff y ffi a godir am ystyried cais am drwydded fod yn fwy na chostau rhesymol cyflawni’r ystyriaeth honno.

(3) Ni chaiff y ffi a godir am roi neu adnewyddu trwydded fod yn fwy na swm y costau am roi neu adnewyddu a’r costau disgwyliedig rhesymol am fonitro cydymffurfiaeth y deiliad trwydded â’r Rheoliadau hyn ac amodau’r drwydded yn y dyfodol.

Canllawiau

13. Rhaid i’r awdurdod lleol, wrth gyflawni ei swyddogaethau o dan y Rheoliadau hyn, roi sylw i unrhyw ganllawiau a ddyroddir gan Weinidogion Cymru.

RHAN 4

Atal Dros Dro, Amrywio a Dirymu Trwydded

Seiliau ar gyfer atal dros dro ac amrywio

14. Caiff awdurdod lleol atal dros dro neu amrywio trwydded ar unrhyw adeg os bodlonir yr awdurdod lleol—

(a)     nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;

(b)     na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;

(c)     y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;

(d)     bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu

(e)     bod atal dros dro neu amrywio’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.

Y weithdrefn ar gyfer atal dros dro ac amrywio

15.(1)(1) Bydd atal dros dro neu amrywio trwydded o dan reoliad 14 yn cael effaith ar ddiwedd y cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda diwrnod cyflwyno’r hysbysiad o’r ataliad neu’r amrywiad.

(2) Os yw’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci, caiff yr awdurdod lleol bennu yn yr hysbysiad fod yr ataliad dros dro neu’r amrywiad i gael effaith ar unwaith.

(3) Rhaid i hysbysiad o ataliad dros dro neu amrywiad—

(a)     datgan seiliau’r awdurdod lleol dros atal dros dro neu amrywio;

(b)     datgan pa bryd y daw’r ataliad neu’r amrywiad i rym;

(c)     pennu pa gamau, ym marn yr awdurdod lleol, y mae’n angenrheidiol eu cymryd er mwyn unioni’r seiliau; a

(d)     esbonio bod hawl gan y deiliad trwydded i wneud sylwadau ysgrifenedig o dan baragraff (4), rhoi iddo fanylion y person y dylid cyflwyno’r sylwadau hynny iddo, a datgan erbyn pa ddyddiad y mae’n rhaid eu cyflwyno.

(4) Os nad yw’r hysbysiad i gael effaith ar unwaith, caiff y deiliad trwydded gyflwyno sylwadau ysgrifenedig yn gwrthwynebu’r hysbysiad, i’r awdurdod lleol o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda dyddiad cyflwyno’r hysbysiad.

(5) Os gwneir sylwadau o dan baragraff (4), ni fydd yr ataliad dros dro neu’r amrywiad yn cael effaith hyd nes bo’r awdurdod lleol wedi ystyried y sylwadau ac wedi penderfynu arnynt yn unol â pharagraff (6).

(6) Rhaid i’r awdurdod lleol wneud penderfyniad ar y sylwadau, a hysbysu’r deiliad trwydded o’r penderfyniad hwnnw mewn ysgrifen, gan roi rhesymau, o fewn cyfnod o 7 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod y mae’r awdurdod yn cael y sylwadau hynny.

(7) Os yw trwydded wedi ei hatal dros dro am fwy nag 28 diwrnod, rhaid i’r awdurdod lleol—

(a)     adfer y drwydded honno a ataliwyd dros dro, neu

(b)     dirymu y drwydded honno a ataliwyd dros dro.

 

Adfer trwydded

16.(1)(1) Rhaid i awdurdod lleol, drwy hysbysiad, adfer trwydded a ataliwyd dros dro, unwaith y bodlonir yr awdurdod fod y seiliau a bennwyd yn yr hysbysiad o ataliad dros dro wedi eu hunioni, neu y byddant yn cael eu hunioni.

(2) Wrth adfer trwydded o dan baragraff (1) ceir amrywio’r cyfnod y dyroddir y drwydded ar ei gyfer, ond ni chaniateir i’r drwydded gael ei hestyn y tu hwnt i 1 flwyddyn o’r dyddiad pan gafodd ei hadfer.

Seiliau ar gyfer dirymu trwydded

17.(1)(1) Caiff awdurdod lleol ddirymu trwydded os bodlonir yr awdurdod lleol—

(a)     nad yw’r materion y cyfeirir atynt yn rheoliad 9(1)(a) i (d) wedi eu bodloni;

(b)     na chydymffurfir ag amodau’r drwydded;

(c)     y cyflawnwyd toriad o’r Rheoliadau hyn;

(d)     bod gwybodaeth a gyflenwyd gan y deiliad trwydded yn ffug; neu

(e)     bod dirymu’n angenrheidiol er mwyn diogelu lles ci.

(2) Os anghymhwysir deiliad trwydded o dan unrhyw un o’r deddfiadau yn rheoliad 10, di-rymir trwydded y deiliad hwnnw yn awtomatig pan fo’r cyfnod o amser a ganiateir ar gyfer unrhyw apêl yn dod i ben, neu os gwneir apêl, pan wrthodir yr apêl honno.

Hysbysiad o ddirymu

18. Rhaid i hysbysiad dirymu—

(a)     datgan seiliau’r awdurdod lleol dros ddirymu;

(b)     datgan pa bryd y daw’r dirymiad i rym; ac

(c)     nodi bod hawl i apelio i lys ynadon.

RHAN 5

Apelau

Hawl i Apelio

19.(1)(1) Caiff unrhyw berson a dramgwyddir oherwydd gwrthod rhoi neu adnewyddu trwydded, neu benderfyniad i ddirymu trwydded, apelio i lys ynadon.

(2) Bydd y weithdrefn mewn apêl i lys ynadon o dan baragraff (1) ar ffurf cwyn, a bydd Deddf Llysoedd Ynadon 1980([13]) yn gymwys i’r achos.

(3) Y cyfnod a ganiateir ar gyfer dwyn apêl yw cyfnod o 28 diwrnod sy’n cychwyn gyda’r diwrnod sy’n dilyn y diwrnod y rhoddir hysbysiad o’r penderfyniad.

RHAN 6

Darpariaethau amrywiol

Pŵer i gymryd samplau

20. Caiff arolygydd, at y diben o sicrhau y cydymffurfir â darpariaethau’r Rheoliadau hyn, gymryd samplau o boer neu o flew unrhyw gi sydd mewn mangre a feddiennir gan y deiliad trwydded, ar gyfer cynnal profion DNA.

Dyletswydd i gynorthwyo gyda chymryd samplau

21. Rhaid i’r deiliad trwydded gydymffurfio ag unrhyw gais rhesymol gan arolygydd, i hwyluso adnabod ac archwilio ci a chymryd samplau yn unol â rheoliad 20 ac, yn benodol, trefnu i gorlannu ci os gofynnir iddo wneud hynny gan arolygydd.

Troseddau

22. Cyflawnir trosedd os yw person, heb awdurdod cyfreithiol nac esgus, yn mynd yn groes i unrhyw amod trwyddedu, ac yn dilyn collfarn ddiannod, bydd person sy’n euog o drosedd o’r fath yn atebol i ddirwy o ddim mwy na lefel 5 ar y raddfa safonol, neu gyfnod o garchar na fydd yn hwy na 6 mis, neu’r ddau.

Pwerau mynediad

23. Rhaid trin toriad o amod trwydded fel trosedd berthnasol yn yr ystyr a roddir i “relevant offence” at ddibenion adran 23 o’r Ddeddf (mynd i mewn a chwilio o dan warant mewn cysylltiad â throseddau).

Pwerau sy’n dilyn collfarn

24. Mae’r pwerau perthnasol sy’n dilyn collfarn, a gynhwysir yn adrannau 34 a 42 o’r Ddeddf, yn gymwys mewn perthynas â chollfarn am drosedd o dorri amod trwydded a roddir o dan y Rheoliadau hyn.

Darpariaethau trosiannol

25. Bydd trwydded a roddwyd o dan Ddeddf Bridio Cŵn 1973 yn parhau i gael effaith fel pe bai’n drwydded a roddwyd o dan reoliad 5.

Diwygiadau canlyniadol

26. Mae Atodlen 2 (diwygiadau canlyniadol) yn cael effaith.

Gorfodi

27. Gorfodir y Rheoliadau hyn gan yr awdurdod lleol.

 

 

 

Y Gweinidog Cyfoeth Naturiol a Bwyd , un o Weinidogion Cymru

 

Dyddiad

YR ATODLENNI

ATODLEN 1

                                                Rheoliad 8(2)

RHAN 1

Amodau Trwydded

Amod 1: Gwella a Chyfoethogi

1. Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen wella a chyfoethogi a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.

Amod 2: Cymdeithasoli

2. Rhaid i’r deiliad trwydded weithredu rhaglen gymdeithasoli a gymeradwywyd gan yr awdurdod lleol.

Amod 3: Iechyd

3. Rhaid i’r deiliad trwydded gymryd pob cam rhesymol i ddiogelu cŵn rhag poen, dioddefaint, anaf a chlefyd.

Amod 4: Paru

4. Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau nad yw gast fridio—

(a)     yn cael ei pharu cyn ei bod yn 12 mis oed;

(b)     yn rhoi genedigaeth i fwy nag un torllwyth o gŵn bach o fewn cyfnod o 12 mis; nac

(c)     yn rhoi genedigaeth i gyfanswm o fwy na 6 torllwyth o gŵn bach.

Amod 5: Newid perchnogaeth ci bach

5. Rhaid i’r deiliad trwydded barhau i berchen ac i feddu ar unrhyw gi bach yn y fangre hyd nes bo’r ci bach yn 56 diwrnod oed, o leiaf.

Amod 6: Adnabod geist bridio a chŵn gre

6.(1)(1) Oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod pob gast fridio a chi gre nad ydynt eisoes wedi eu microsglodynnu ar yr adeg y daw’r Rheoliadau hyn i rym, yn cael eu microsglodynnu.

(2) Rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod—

(a)     rhif unigryw y microsglodyn;

(b)     enw, cyfeiriad a rhif ffôn y deiliad trwydded;

(c)     enw’r ci;

(d)     brid y ci;

(e)     unrhyw nodweddion corfforol arbennig y ci;

(f)      rhyw’r ci; ac

(g)     dyddiad geni’r ci,

wedi cael eu cofrestru mewn cronfa ddata y mae’r deiliad trwydded yn credu’n rhesymol ei bod yn cydymffurfio ag is-baragraff (3).

(3) Rhaid i’r deiliad trwydded gredu’n rhesymol fod gweithredwr y gronfa ddata—

(a)     yn diweddaru unrhyw newidiadau, y rhoddir gwybod amdanynt, i’r wybodaeth a restrir yn is-baragraff (2) ar y gronfa ddata;

(b)     yn cofnodi’r wybodaeth a restrir yn is-baragraff (2) mewn cronfa ddata gyfrifiadurol ddiogel; ac

(c)     yn gallu prosesu ymholiadau am yr wybodaeth honno dros y ffôn neu ar-lein ar bob adeg resymol.

 

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw milfeddyg yn ardystio, ar ffurf y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo, y byddai microsglodynnu’n gwanhau iechyd ci yn sylweddol.

(5) Ni chaiff ardystiad o dan is-baragraff (4) gael ei gyflwyno am gyfnod sy’n hwy na 4 wythnos oni bai bod y milfeddyg o’r farn bod y risg i iechyd y ci yn un barhaol.

Amod 7: Adnabod cŵn bach

7.(1)(1) Oni bai bod is-baragraff (4) yn gymwys, rhaid i’r deiliad trwydded sicrhau bod ci bach wedi ei ficrosglodynnu cyn iddo droi’n 56 diwrnod oed.

(2)(2) Cyn i’r ci bach adael mangre y deiliad trwydded gyda golwg ar newid ei berchnogaeth, neu cyn i’r ci bach gael ei drosglwyddo i berchennog newydd, rhaid i’r deiliad trwydded gofrestru—

(a)     rhif unigryw y microsglodyn;

(b)     enw, cyfeiriad a rhif ffôn y deiliad trwydded fel perchennog cyntaf y ci bach;

(c)     enw’r ci bach;

(d)     brid y ci bach;

(e)     unrhyw nodweddion corfforol arbennig y ci bach;

(f)      rhyw’r ci bach; ac

(g)     dyddiad geni’r ci bach,

mewn cronfa ddata y mae’r deiliad trwydded yn credu’n rhesymol ei bod yn cydymffurfio â pharagraff 6(3).

(3) Wrth drosglwyddo perchnogaeth ci bach, rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu, mewn perthynas â’r perchennog newydd, enw, cyfeiriad a rhif ffôn perchennog newydd y ci bach, i’r gronfa ddata a ddefnyddiwyd gan y deiliad trwydded i gofrestru microsglodyn y ci.

(4) Nid yw is-baragraff (1) yn gymwys os yw milfeddyg yn ardystio, ar ffurf y mae Gweinidogion Cymru wedi ei chymeradwyo, y byddai microsglodynnu’n gwanhau iechyd ci yn sylweddol.

(5) Ni chaiff ardystiad o dan is-baragraff (4) gael ei gyflwyno am gyfnod sy’n hwy na 4 wythnos oni bai bod y milfeddyg o’r farn bod y risg i iechyd y ci yn un barhaol.

Amod 8: Gofynion cofnodi geist bridio

8.(1)(1) Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig mewn perthynas â phob gast fridio a gedwir, gan nodi—

(a)     ei henw;

(b)     ei dyddiad geni;

(c)     ei brid;

(d)     disgrifiad ffisegol ohoni, gan gynnwys ei lliw a’i nodweddion adnabod;

(e)     ei statws iechyd;

(f)      ei rhif microsglodyn unigryw;

(g)     manylion paru, gan gynnwys;

(i) enw, brid a rhif microsglodyn unigryw y tad; a’r

(ii) manylion canlynol mewn perthynas â phob ci bach a anwyd—

(aa)        dyddiad geni;

(bb)       rhif microsglodyn unigryw; ac

(cc)        pa bryd y trosglwyddwyd perchnogaeth, ac enw a chyfeiriad y perchennog newydd.

(2) Pan drosglwyddir perchnogaeth gast fridio, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1); rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd, a chadw copi ohono ei hunan.

(3) Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i edrych arno, a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo drwy gydol oes yr ast fridio.

Amod 9: Gofynion cofnod cŵn bach

9.(1)(1) Rhaid i’r deiliad trwydded gynnal cofnod ysgrifenedig sy’n cadarnhau’r manylion canlynol mewn perthynas â phob ci bach:

(a)     rhyw;

(b)     dyddiad geni;

(c)     brid;

(d)     disgrifiad ffisegol gan gynnwys lliw a nodweddion adnabod;

(e)     statws iechyd;

(f)      rhif microsglodyn unigryw;

(g)     enw, brid a rhif microsglodyn unigryw’r fam; a

(h)     enw, brid a rhif microsglodyn unigryw’r tad.

(2) Pan drosglwyddir perchnogaeth ci bach, rhaid i’r deiliad trwydded gofnodi enw, cyfeiriad a rhif ffôn y perchennog newydd yn y cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1); rhaid i’r deiliad trwydded ddarparu copi o’r cofnod hwnnw i’r perchennog newydd, a chadw copi ohono ei hunan.

(3) Rhaid i’r cofnod y cyfeirir ato yn is-baragraff (1) fod ar gael i edrych arno gan yr awdurdod lleol ar unrhyw adeg, a rhaid i’r deiliad trwydded ddal gafael ynddo am 3 blynedd ar ôl geni’r ci bach.

 

 

 

 

ATODLEN 2

Diwygio Canlyniadol

Rheoliad 26

Deddf Bridio Cŵn 1973

1. Yn adran 5 o Ddeddf Bridio Cŵn 1973 (dehongli), yn is-adran (2), yn y diffiniad o “local authority”, hepgorer “and in Wales the council of a county or county borough”.

Deddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994

2. Yn Atodlen 16 o Ddeddf Llywodraeth Leol (Cymru) 1994 (diwygiadau canlyniadol eraill), hepgorer paragraff 42.

Deddf Cŵn Gwarchod 1975

3. Yn adran 3 o Ddeddf Cŵn Gwarchod 1975 (trwyddedau cwbiau cŵn gwarchod), o flaen is-adran 6, mewnosoder—

(5B) Where a person is convicted of an offence under section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006 arising from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales, or of an offence under the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2013, subsections (4) and (5) apply as they do to convictions under this Act.”

Deddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976

4. Ar ddiwedd adran 6 o Ddeddf Anifeiliaid Gwyllt Peryglus 1976 (cosbau) mewnosoder—

(3B) Where a person is convicted of an offence under section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006 arising from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales, or of an offence under the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2013, subsections (2) and (3) apply as they do to convictions under this Act”.

 

Deddf Trwyddedu Sŵau 1981

5. Yn adran 4 o Ddeddf Trwyddedu Sŵau 1981 (rhoi neu wrthod trwydded) yn is-adran (5), mewnosoder ar y diwedd—

“section 13(6) of the Animal Welfare Act 2006, so far as the offence arises from the contravention of section 13(1) of that Act in relation to dog breeding in Wales;

the Animal Welfare (Breeding of Dogs) (Wales) Regulations 2013.



([1])           Diffinnir ‘‘appropriate national authority’’ yn adran 62(1) o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006. Mae swyddogaethau a roddwyd i Gynulliad Cenedlaethol Cymru wedi eu breinio bellach yng Ngweinidogion Cymru yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraffau 30 a 32 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno.

([2])           2006 p.45.

([3])           2006 p.45. Yn rhinwedd adran 162 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (p.32) a pharagraff 34 o Atodlen 11 i’r Ddeddf honno, mae’r cyfeiriad at “House of Parliament” yn adran 61(2) yn cynnwys Cynulliad Cenedlaethol Cymru.

([4])           2011 p. 16.

([5])           2006 dsa 11.

([6])           1983/764 (G.I. 8).

([7])           1973 p.60 Diwygiwyd adran 3(3) gan adran 5(1) o Ddeddf Bridio a Gwerthu Cŵn (Lles) 1999 (p.11).

([8])           1964 p. 70 Diwygiwyd adran 4(3) gan adran 64 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a pharagraff 6(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

([9])           1963 p. 43 Diwygiwyd adran 3(3) gan adran 64 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a pharagraff 5(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

([10])         1954 p.40. Diddymwyd adran 1 gan adran 65 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 ac Atodlen 4 i’r Ddeddf honno.

([11])         1951 p.35 Diwygiwyd adran 5(3) gan adran 64 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a pharagraff 3(2) o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

([12])         1976 p.38. Diwygiwyd adran 6(2) gan adran 64 o Ddeddf Lles Anifeiliaid 2006 a pharagraff 9 o Atodlen 3 i’r Ddeddf honno.

([13])         1980 p. 43.